Dod â phobl at ei gilydd trwy fwyd
Os ydym am gael system fwyd sy’n deg, sy’n iach ac sy’n gallu bwydo cenedlaethau’r dyfodol heb ddisodli bywyd gwyllt na niweidio ein priddoedd, yna bydd yn rhaid i ni newid rhai pethau. Mae gan fusnesau, y llywodraeth a’r cyhoedd i gyd ei ran i’w chwarae a bydd angen i ni fod yn barod i roi ein syniadau sefydlog ein hunain o’r neilltu a gwrando ar eraill.
Mae cyfathrebu clir a meddylgar yn hanfodol, p’un a ydym yn ysgrifennu neu’n siarad. Mae’n bwysig hefyd dod at ein gilydd i rannu syniadau, i ymholi’n ddyfnach, i herio rhagdybiaethau ei gilydd ac i ddathlu. Ar y wefan hon rwy’n cyhoeddi fy ysgrifen fy hun. Rwy’n ceisio mynd yn ddwfn i’r cwestiynau sylfaenol am fwyd, gan archwilio sut mae ein gwerthoedd wedi helpu i gynhyrchu’r system a welwn heddiw, gyda’r nod o ddod o hyd i dir cyffredin rhwng gwahanol grwpiau o bobl.
Rwy’n gweithio gyda llawer o unigolion a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt, yn enwedig Maniffesto Bwyd Cymru, a hefyd mentrau eraill a ddisgrifir ar y dudalen Prosiectau.
Gweithio gyda fi
Rwy’n ysgrifennu, golygu, dysgu a threfnu digwyddiadau, yn Saesneg a Chymraeg. Cymerwch gip ar y dudalen Gwasanaethau.