Addasiad o ddarlith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Dydd Rhyngwladol y Merched, 8 Mawrth 2022
Merched, bwyd a chymuned – dyna dri gair sy’n mynd gyda’i gilydd yn naturiol. Ond beth yn union sydd yn eu cysylltu? Rydw i’n credu bod llawer mwy i’r drindod yma na damwain hanesyddol ac ystrydeb, a bod gwersi i’w dysgu trwy edrych ar y gyd-berthynas rhyngddynt. Rydw i am rannu fy mhrofiad i fy hunan fel man cychwyn, gan obeithio y bydd yn canu cloch gydag eraill.
Merched
Pan oeddwn i yn yr ysgol yng Nghaerdydd yn y saithdegau, ac yn blentyn eithaf uchelgeisiol a oedd am wneud yn dda, byddwn yn myfyrio ar beth oedd bod yn ferch. Rydw i’n cofio gweld dynion yn mynd i’r gwaith, yn cael gyrfaoedd pwysig, proffesiynol a bod yn rhywun yn y byd. A gweld rhai menywod yn gwneud yr un peth, wrth gwrs, ond yn aml iawn, fel fy mam i fy hunan, yn aros gartref. Roedden nhw’n coginio, gofalu am blant, mynd i’r siopau, cael te gyda’u ffrindiau, garddio a gwneud jam, ac yn ddigon hapus ar y cyfan. Ond i ba grŵp o ferched oeddwn i’n perthyn? Roedd gyda fi deimladau cymysg. Ar un llaw, roedd hi’n amlwg i fi mai gyrfa broffesiynol oedd yr unig ddewis i fi mewn gwirionedd. Dyna oedd pawb yn disgwyl i fi ei wneud, felly es i i’r brifysgol ac astudio gwyddoniaeth, fel mae merched i fod i’w wneud y dyddiau yma, a dechrau gyrfa yn y byd cyhoeddi gwyddonol. Ond ar y llaw arall, roeddwn i’n dal i deimlo parch a dyled at fyd traddodiadol y merched, nad oeddwn rywsut yn gallu bod yn rhan ohono. Beth oeddwn i’n ei golli?
Aeth popeth yn iawn ar yr wyneb. Ond nid oedd gwaith trin gwybodaeth ar y cyfrifiadur yn ddigon i fi. Roeddwn yn chwilio am rywbeth arall nad oeddwn i’n gallu ei enwi, rhywbeth oedd yn ymwneud â theulu, cartref, cymuned, traddodiad, diwylliant. Dechreuais wirfoddoli i brosiectau cymunedol ac amgylcheddol: y siop Oxfam fore dydd Sadwrn, penwythnosau ar ffermydd organig, gwaith gwarchod natur, digwyddiadau codi arian ac yn y blaen. A thrwy hynny, fe ddysgais i sut mae cymunedau yn gweithio, a chwrdd â’r merched (a dynion) oedd yn cadw popeth i fynd. O dipyn i beth, dyma fi yn darganfod byd y merched, a chymryd fy lle ynddo.
Heddiw mae dadl boeth ynglŷn â beth yw merch. Ond yn hytrach na hynny rydw i am drafod yr hyn rydw i’n meddwl amdano fel diwylliant benywaidd, neu gymdeithas fenywaidd, sef y ffordd mae grŵp o fenywod yn gweithio. Wrth weithio ym maes bwyd cymunedol, rydw i’n gweld merched ym mhob man: yn trefnu digwyddiadau, yn cynhyrchu cylchlythyron, yn garddio a choginio, yn ysgrifennu a chynllunio – ac ie, yn gwneud y te. Achos gwneud y te, sef gofalu am y grŵp, yw nerth y dull benywaidd. Dyna rywbeth nad oeddwn i’n ei ddeall fel oedolyn ifanc, ac yn ei fychanu hyd yn oed, o’r herwydd. Ond rydw i wedi dod i’w ddeall, trwy arsylwi ac arbrofi, a chael fy nerbyn. Felly beth yw cymdeithas menywod, a pham mae gwerth iddi?
Mae grŵp o ferched yn bendant yn wahanol i grŵp cymysg. Pan mae merched yn dod at ei gilydd, y prif werth yw undod, a lles y grŵp. Fel merched rydym yn edrych ar ôl teimladau ein gilydd, oherwydd ein bod yn gwybod ein bod ni fel unigolion yn dibynnu ar iechyd y grŵp. Felly, rydym yn awyddus i beidio cystadlu, na bychanu ein gilydd. Os ydyn ni’n llwyddo yn y byd, rydyn ni’n tueddu i gadw’n dawel amdano. Llwyddiant y grŵp sy’n dod gyntaf. Mae’r grŵp yn rhoi nerth i ni ac ar ei gorau mae’n ein galluogi ni i gyflawni pethau na allwn ni eu gwneud ar ein pennau’n hunan.
Dyna rôl draddodiadol merched: creu undod yn y teulu ac yn y gymuned, atgoffa pawb am beryglon unigolyddiaeth, a gofalu am wead cymdeithas. A dyma sydd angen arnom y dyddiau yma, yn fwy nag erioed. Mae angen y gwerthoedd benywaidd traddodiadol, a’r ffyrdd benywaidd o fod yn y byd, yn ogystal â’r rhai gwrywaidd. Mae pawb yn ymwybodol erbyn hyn bod angen mwy o fenywod mewn bywyd cyhoeddus, ond yn rhy aml, merched unigolyddol, eithriadol sydd yn cael eu dyrchafu, tra bod cymdeithas fenywaidd yn dal i fod ar yr ymylon. Mae aros gartref a chadw tŷ yn ddewis eilradd, hen-ffasiwn, ac yn rhan o’r ffigurau diweithdra.
Mae’n bwysig pwysleisio dau beth yn fan hyn. Yn gyntaf, nid yw’r ffordd fenywaidd o weithredu ddim yn well na’r ffordd wrywaidd, gyda’i agweddau cystadleuol, strategol, awdurdodol. Mae angen y ddau, ac mae’r ddau ar gael i bawb, beth bynnag ein cromosomau neu’n rhagenwau. Yn ail, mae diwylliant y merched yn gallu mynd yn afiach – yn enwedig, efallai, am ei fod ar ymylon bywyd cyhoeddus – a phan mae’n afiach, mae’n gallu bod yn ddinistriol iawn. Rydym yn gallu bod mor ofalus am undod, fel nad ydyn ni’n datblygu fel unigolion, nac yn caniatáu i neb lwyddo. Rydym yn ein dal ein hunain yn ôl, yn cysylltu trwy ein gwendidau, ac yn ofni llwyddiant ein gilydd. Rydym yn cystadlu, ond yn esgus peidio, gan wthio’r teimladau negyddol o dan yr wyneb, lle maent yn anodd eu trin; weithiau, byddai’n well ffraeo’n agored. Dyna ochr dywyll cymdeithas fenywaidd.
Ond gyda’r cafeat yna, dewch i ni edrych mwy am gryfder cymdeithas fenywaidd. Mae llawer mwy iddi na neisrwydd a gofal, ac mae angen ei chymryd o ddifrif. Os ydyn ni’n meddwl am ddarlith neu gyflwyniad, lle mae rhywun yn sefyll ar lwyfan a rhoi monolog i resi o bobl sy’n eistedd mewn seddau, gyda chwestiynau ar y diwedd, dyma fodel gwrywaidd o rannu gwybodaeth a hybu ymwybyddiaeth o fewn cymdeithas. Yr archdeip benywaidd fodd bynnag yw’r cylch, fel y cylch gwnïo, er enghraifft. Mewn cylch mae pawb yn gydradd, gyfartal. Rydyn ni i gyd yn cael llais, rydym yn gwrando ar ein gilydd, ac mae doethineb yn codi yn naturiol rhyngom ni, heb i neb fod yn berchen arno.
Rwy’n hoffi’r ddelwedd o eistedd mewn cylch o gwmpas pwll dŵr. Os ydyn ni’n gallu eistedd yn ddigon llonydd, gan wrando ar ein gilydd yn astud, wedyn mae wyneb y pwll yn mynd yn wastad ac rydyn ni’n gallu edrych i’r dyfnderoedd a gweld pethau y bydden ni’n methu eu gweld fel arall. Delwedd arall fyddai’r pair, sydd yn trawsffurfio pethau cyffredin yn rhai annisgwyl llawn bywyd newydd. Yn y cylch mae pawb yn gyfrifol am greu’r amodau i bawb ddysgu, weithiau trwy wrando yn hytrach na siarad. Dyna felly sut mae’r gwir yn dod drwodd: nid trwy un person sy’n gwybod pethau, ond o’r ffaith ein bod ni wedi dod at ein gilydd. Y pwynt pwysig yn y fan hyn ydy nad ydyn ni’n gwybod o flaen llaw beth sy’n mynd i ddigwydd. Yn wahanol i’r ddarlith lle mae rhaid paratoi a bod yn argyhoeddedig ein bod yn arbenigwyr, yn y fan hyn, peidio gwybod, a bod eisiau gwybod, yw’r holl bwynt.
Rydym yn tueddu i feddwl am beidio gwybod fel gwendid, ond mewn gwirionedd, nerth yw dweud nad ydym yn gwybod ond ein bod yn chwilio am yr ateb. Mae’n amod angenrheidiol. Os ydyn ni’n meddwl bod yr atebion gennym yn barod, does dim lle i ddim byd newydd dyfu. Bathodd y bardd Keats yr enw ‘negative capability’ am y gallu yma, a dyma arbenigedd y celfyddydau creadigol a hefyd y ffordd fenywaidd o weld y byd: aros, derbyn, esgor.
Mae gan ferched yn aml brofiadau poenus, cignoeth iawn i’w rhannu – colli plant, trais, brad, a siomedigaethau bach bob dydd – a thrwy rannu’r rhain, rydym yn cysylltu gyda’n gilydd a darganfod nerth mewn bregusrwydd. Nid yw hyn yn rhwydd nac yn gyffyrddus. Ond os ydyn ni’n gallu aros gyda’r profiadau yna, heb eu dehongli, heb roi atebion na thaflu bai, dim ond gadael iddyn nhw fod, mae hi’n bosibl i ni dderbyn y ddoethineb y mae ei hangen. Heddiw rydym yn wynebu heriau fel newid yn yr hinsawdd a difodiant byd natur, yn ogystal â thlodi a rhyfel dychrynllyd. Rydym angen y cylchoedd yma yn fwy nag erioed o’r blaen, er mwyn dal gofod ar gyfer dyfodol newydd. Yn lle ffraeo, gan feddwl mai dim ond gyda ni mae’r atebion a bod angen argyhoeddi pawb arall, beth am gyfaddef nad ydyn i’n gwybod y ffordd ymlaen? Nid i achosi iselder a methiant, ond fel man cychwyn, cyffrous hyd yn oed.
Dyna pam dwi’n aelod o sawl cylch merched, sy’n cwrdd yn rheolaidd er mwyn creu gwagle i’r bywyd newydd a fydd yn adfer ein cymdeithas. Mae pob un yn gyfle i fi, a ni, ddysgu sut i oddef ansicrwydd ac amherffeithrwydd, gan gryfhau cyhyr peidio gwybod. Rydym yn ymarfer y grefft o ymddiried yn y broses ddirgel o drawsffurfio, a meithrin y bywyd newydd sydd yn tyfu yn ein plith. Dyna hefyd symboliaeth y groth, sydd yn derbyn yr hedyn gwrywaidd (a’r un benywaidd wrth gwrs) ac yn esgor ar fywyd newydd.
Rydw i’n meddwl mai dyma’r gallu y mae angen ei gryfhau yn ein cymdeithas. Yn sicr mae angen casglu data, gwneud rhagolygon, ysgrifennu strategaethau a chreu cynlluniau gweithredu. Mae angen gwyddoniaeth a thechnoleg, felly. Ond ar yr un pryd mae eisiau meithrin y gallu i dderbyn ansicrwydd, i aros yn amyneddgar, i fod yn bresennol. Dyma rywbeth sydd ar gael i bawb, yn ferched ac yn ddynion, ond rydw i’n credu mai merched yw’r arbenigwyr yn hyn o beth, ac mae rhaid parchu hyn, a gadael i ni arwain.
Rhywbeth arall mae unrhyw grŵp meddylgar yn cyflawni yw datblygu cysylltiadau rhwng pobl, rhywbeth sydd yn cwrdd ag angen dwfn dynol, yr angen i berthyn. Os yw grŵp yn cysylltu pobl mewn ffordd sydd yn meithrin ymddiriedaeth, trwy wrando gyda pharch a chariad, a rhoi hyder i’w aelodau, dyma gryfhau ein holl gymdeithas. Mae hyn yn dod â ni at fwyd a chymuned.
Bwyd
I mi, amaethyddiaeth oedd y bont rhwng astudio gwyddoniaeth a gyrfa mewn newid cymdeithasol, oherwydd bod bwyd yn symbol o gymdeithas a chymuned, a ffermio yn sail i hynny. Bwyd sy’n ein cysylltu ni, ac mae hynny’n amlwg bob tro y byddwn ni’n eistedd lawr i rannu pryd o fwyd, neu hyd yn oed yn cyfnewid ryseitiau dros y we yn ystod y cyfnod clo. Ac mae bwyd yn fwy na dim ond symbol wrth gwrs, mae’n ffaith, yn rhan o’r byd corfforol. Ni fyddai ddim cymdeithas heb fwyd. Trwy ffermio a garddio, mae bwyd yn ein cysylltu ni â’r ddaear, ac â byd natur. Felly mae bwyd yng nghanol popeth, yn gwneud y byd yn gyfan.
Fe adewais i fy ngwaith yn y byd gwybodaeth amaethyddol, hyfforddais fel athrawes ac wedyn penderfynu mai addysgu’r cyhoedd am fwyd a ffermio oedd y ffordd ymlaen. Un o’r pethau roeddwn i’n eu mwynhau fwyaf wrth weithio yng Nghanolfan Organig Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd trefnu prydau bwyd arbennig mewn ysgolion. Bydden ni’n mynd i mewn i ysgol, siarad â’r gogyddes a’r athrawon, ymweld â marchnad y ffermwyr lleol efallai, a chynllunio pryd bwyd o gynhwysion lleol. Rwy’n cofio er enghraifft mynd i ysgol gynradd yn Ynys Môn, siarad â’r gogyddes, y brifathrawes a rhywun o wasanaeth arlwyo’r cyngor sir, wedyn ffonio’r cigydd a gofyn o ble roedd e’n cael ei gig, a’r cigydd yn fy nghyfeirio fi ymlaen at y lladd-dy, a’r lladd-dy yn siarad â’r mart i brynu buwch a fagwyd ar yr Ynys. Wedyn, es i weld dyn oedd yn gwneud hufen iâ o laeth lleol ar ystâd ddiwydiannol drws nesaf i’r ysgol, tra bod y brifathrawes yn trefnu ymweliad ysgol â melin wynt lawr y lôn oedd yn malu gwenith lleol, a siarad â marchnad-arddwr a gyflenwodd y llysiau, ac yn y blaen. Ac fel ‘na, daeth popeth roedd ei angen i wneud pryd o fwyd at ei gilydd.
Wedyn daeth y cigydd, y tyfwr llysiau, y melinydd, y dyn wnaeth yr hufen iâ, yn ogystal â ffermwyr, cynghorwyr lleol, llywodraethwyr yr ysgol a staff y cyngor sir i rannu’r cinio gyda’r plant ac athrawon. Roedd yn ysbrydoliaeth fawr, i mi o leiaf. Roeddwn ni’n gallu gweld rhwydwaith o gydberthnasau bwyd ar waith yn y gymuned. Trwy eistedd lawr i rannu pryd o fwyd rydym yn creu cymdeithas – teirgwaith y dydd, bob dydd – ac am un diwrnod roedd hynny’n weladwy. Ac yng nghanol hyn oll, roedd y gogyddes a’r merched yn y stafell fwyta yn cael y clod roedden nhw’n ei haeddu fel y rhai sydd yn bwydo’r genhedlaeth nesaf, a dangos i blant bach sut mae defnyddio cyllell a fforc, a sut mae siarad gyda’ch ffrindiau o gwmpas y bwrdd.
Fe wnaethon ni brydau bwyd tebyg tua dwsin o weithiau, ar draws Cymru, o Gaerdydd i’r Trallwng, o Ben-y-bont ar Ogwr i Wrecsam, weithiau gyda rhieni yn ymuno â ni, a bob tro bu’r un cyffro yn yr ystafell fwyta. Roedd pawb yn gallu gweld, a blasu, sut mae bwyd yn creu cymuned, a sut rydym yn dibynnu ar ein gilydd, a bod hynny’n beth da. Wedyn byddai trafodaeth frwd am sut i gael mwy o fwyd lleol yn yr ysgol, dadl sy’n parhau hyd heddiw, gan nad peth hawdd yw prynu a chludo bwyd o gynhyrchwyr lleol i ysgolion gwasgaredig, am bris rhesymol.
Felly mae bwyd lleol yn cynnal cymuned. Ond mae agwedd arall arno, gredaf i. Mae polisïau bwyd a ffermio llywodraeth Cymru yn llawn syniadau mawr – datblygu cynaliadwy, cydnerthedd, carbon net sero – sydd i fod i achub y byd. Ond oni bai ein bod yn cyfieithu’r syniadau yna i weithredoedd mewn cymunedau lleol, dydyn nhw ddim o werth. Mae’n rhaid i’r gair ddod yn gnawd. Rydyn ni’n gweld beth sydd yn mynd o’i le pan fydd y termau haniaethol yma yn cael eu dehongli mewn ffordd llawer yn rhy syml. Dyma British Airways yn prynu ffermydd yn Sir Gâr er mwyn plannu coed, fel eu bod yn gallu parhau i hedfan ar draws y byd – busnes fel arfer, gan ddinistrio cymunedau gwledig a lleihau ein gallu i gynhyrchu bwyd.
Mae rhaid gweithio’n lleol, mewn ardal benodol gyda chymuned benodol, achos manylion daearyddiaeth, hinsawdd ac wrth gwrs pobl a gwleidyddiaeth sydd yn penderfynu a fydd prosiect yn llwyddo, ac i ba gyfeiriad y bydd yn mynd. Dyna pam mae bwyd cymunedol yn bwysig. Mae trefnu pryd bwyd lleol yn anodd, achos mae rhaid deall ardal, a gwybod pwy yw pwy, a datrys problemau dosbarthu a thalu fel bod pawb yn hapus. Mae yna egwyddorion sydd yn drosglwyddadwy o ardal i ardal, ond bob amser mae rhaid gwneud y gwaith o ddod i adnabod ardaloedd penodol, gyda’u hanghenion gwahanol. Mae angen mynd yn ôl ac ymlaen rhwng darlun mawr polisi cenedlaethol a manylion lleol. Mae angen y ddau.
Ychydig yn ôl clywais rywbeth doniol iawn ar Woman’s Hour. Roedd rhywun yn sôn am Adam Smith a’i lyfr Wealth of Nations, sydd yn gosod sylfaen economeg fodern. Yn syml, mae’r farchnad yn creu cyfoeth i bawb, dim ond i ni greu’r amodau iawn iddi wneud ei gwaith. Ond yn eironig braidd, pan ysgrifennodd Adam Smith y llyfr yna, roedd e’n byw gartref gyda’i fam. Hi oedd yn coginio ei fwyd, yn golchi ei ddillad, gwnïo a glanhau. Wrth gwrs, doedd Smith ddim yn bwriadu bychanu gwaith ei fam o gwbl, nac yn awgrymu y dylai gwaith tŷ ddod yn rhan o’r farchnad hollalluog. Mae’n siŵr ei fod yn gwerthfawrogi’n fawr y gofal roedd e’n ei dderbyn, ond doedd dim syniad gydag e y byddai’r farchnad yn y pen draw yn trechu dynoliaeth, a’r blaned.
Yn rhy aml mae pethau amhrisiadwy, fel byd natur, prydferthwch a gofal, yn cael eu hesgeuluso gan nad ydyn nhw yn rhan o’r farchnad. Rydym yn ceisio eu cynnwys rywsut, trwy dalu ffermwyr am warchod byd natur, a gofalwyr i edrych ar ôl plant a hen bobl, ond nid yw’n gweithio’n dda. Am un peth, mae cymaint o ddifrod wedi bod i fyd natur a chymdeithas, fel nad yw’r farchnad ei hunan yn gallu adfer y sefyllfa. Ond hefyd, mae’r ffordd yna o feddwl wedi newid ein gwerthoedd ni a’n ffordd o ddeall ein cyfrifoldebau, fel nad ydyn ni’n deall mwy sut yn union mae gofalu am y pethau yna. Elw a thwf economegol sydd yn ein harwain, nid doethineb ein cydwybod.
Roedd yn glir yn y prydau bwyd ysgolion yna sut mae economeg y farchnad wedi tanseilio’r system fwyd, ac roedden nhw hefyd yn awgrymu ffordd yn ôl i’r hyn sydd o wir werth i ni. Mae llawer o siarad am beryglon ‘neoryddfrydiaeth’ (neoliberalism) ymysg y deallusion sydd yn galaru dros ddirywiad ein cymdeithas, ond gair haniaethol arall yw hwnnw. Profiad sy’n dod â phopeth yn fyw. Pam nad ydyn ni’n gallu ein bwydo ni’n hunain o ffermydd lleol? Pam mae ysgolion yn prynu cig oen o Seland Newydd, os o gwbl? A beth sy wedi digwydd i goginio cartref? Falle bod gwerth mewn gwaith tŷ wedi’r cyfan.
Cymuned
Yn ystod fy amser yng Nghanolfan Organig Cymru roeddwn i’n gweithio yn genedlaethol. Ar wahân i grwydro Cymru i drefnu prydau bwyd i ysgolion, byddwn yn arwain ymweliadau ysgolion â ffermydd, trefnu cynadleddau i drafod dyfodol bwyd a ffermio, a mynd i sioeau a gwyliau. Rwy’n cofio eistedd ar stondin yng Ngwledd Conwy am benwythnos cyfan, er enghraifft, yn gwahodd y cyhoedd i flasu’r gwahaniaeth rhwng moron organig a rhai confensiynol er mwyn dechrau sgwrs am goginio a thyfu bwyd. Roedd yn braf cwrdd â phob math o bobl a chlywed am eu profiadau bwyd, ond roedd hefyd yn braf cael dod yn ôl i’r swyddfa, dadlwytho’r car ac eistedd o flaen y cyfrifiadur mewn ystafell gynnes a sych. Byddwn yn rhoi lluniau ar y wefan, ac ysgrifennu adroddiad, wedyn symud ymlaen at yr un nesaf.
Ond o edrych yn ôl, tipyn o dwrist oeddwn i. Byddwn i’n ymweld â phrosiect, gwneud tipyn o waith, creu lot o waith i bobl eraill, ac wedyn bant â fi ac ymlaen i’r peth nesaf. Nawr, rydw i’n gweithio yn lleol yn bennaf, yn enwedig yn ardal Aberystwyth a Biosffêr Dyfi. Ac mae hynny’n wahanol iawn, achos dwi’n nabod pobl ac mae pobl yn fy nabod i. Os ydw i’n gwneud camgymeriad, mae pawb yn gwybod ac mae angen ymddiheuro a gwneud pethau’n well, os yn bosib, neu fyddaf i ddim mor effeithiol y tro nesaf. Hefyd, mae yna grŵpiau ac unigolion sydd ddim yn dod ymlaen gyda’i gilydd, a dwi’n gorfod bod yn ofalus am yr hyn rydw i’n ei ddweud, ac wrth bwy, achos rydw i eisiau bod ar delerau da gyda phawb. Mae hynny yn gorfodi rhywun i symud yn ofalus a meddwl am y tymor hir.
O ganlyniad, mae llawer mwy o ddyfnder i fy ngwaith i erbyn hyn. Dwi’n gorfod gwerthfawrogi cymhlethdod pethau, a’r elfen ddynol sydd yn gallu bod mor lletchwith. Mae cwestiynau mawr, damcaniaethol, yn dod yn rhai concrit, poenus. Er enghraifft, rydw i’n gorfod wynebu’r ffaith nad yw tyfwyr llysiau yn ennill cymaint â gweithiwr swyddfa fel fi, tra bod eraill yn dibynnu ar y banc bwyd, a bod rhamantu am fwyd lleol yn fraint. Dyma anghyfiawnder, ar fy mhlât, ac nid yw’n gyffyrddus. A phan mae ffraeo yn bod, fel dros ddad-ddofi, neu ffermydd dofednod, dwi’n teimlo poen cymuned sydd wedi ei rhannu.
Y pwynt yma yw bod gweithredu’n lleol yn ein gorfodi ni i wynebu gwirioneddau poenus, a gweld ein hunain fel rhan o system gyfan. Alla i ddim gwahanu fy hunan oddi wrth y sefyllfa, ac mae pob dewis rydw i’n ei wneud yn cael effaith. Ond os ydyn ni’n fodlon gweld beth sydd o’i le, a theimlo’r poen ohono, dyma sbardun i ni newid pethau, a bod yn rhan o’r ateb. Os ydyn ni’n gallu goddef ansicrwydd a pheidio gwybod, efallai y daw atebion. Dyma ni’n dod yn ôl at y ffordd fenywaidd o ddelio â phethau.
Casglu pethau ynghyd
Mae angen adfywio ein byd. Mae problemau mawr yn ein hamgylchynu – newid hinsawdd, Covid, rhyfel, costau byw, chwyddiant – ac ni fydd y busnes-fel-arfer sydd wedi creu’r problemau yn gallu eu datrys. Gwell derbyn diwedd ffordd o fyw sy ddim yn gynaliadwy, galaru drosto, a dechrau o’r newydd. Mae eisiau gollwng gafael yn yr hen ffyrdd o wneud pethau ac ail-greu cymdeithas, neu yn well, gadael i’n cymdeithas ail-greu ei hunan. Nid trwy gefnu ar ein gilydd, taflu bai ar ‘y system’ neu chwilio am burdeb trwy gwsmeriaeth gwyrdd, ond trwy weithredu a disgwyl. Mae angen ffydd, mewn pobl, mewn daioni.
Peth o’r ateb, rydw i’n credu, yw’r egwyddor benywaidd, sydd wedi cael ei chamddeall a’i dirmygu cyhyd. Mae angen gweini a gofalu, disgwyl a goddef ansicrwydd, yn ogystal ag arwain a chynllunio. Mae angen bydwragedd felly, yn ogystal a pheirianwyr. Mae angen gwneud y pethau bychain, ymarferol, ac ymfalchïo ynddyn nhw. Mae angen deall pethau yn ein calonnau, heb ddibynnu ar fesuriadau allanol. Fel yna byddwn ni’n esgor ar y byd newydd sydd yn aros amdanon ni.
Hoffwn ddiolch i Hazel Thomas am y gwahoddiad i roi’r ddarlith, i Llinos Dafis am ei chefnogaeth wrth i mi baratoi’r sgwrs ac wedyn golygu’r fersiwn ysgrifenedig, ac i ferched eraill grŵp Cadw i Fynd Ceredigion am eu hysbrydoliaeth a chwmni dros y blynyddoedd.