A allaf eich helpu? Rwy’n dysgu, ysgrifennu a siarad am fwyd, ffermio a newid cymdeithasol, ac rydw i ar gael i’w llogi. Dyma rai o’r pethau y gallaf eu cynnig. Am fwy o fanylion gweler y dudalen Prosiectau a’m proffil Linked In.
Ysgrifennu, golygu a chyfathrebu:
Mae gennyf radd mewn gwyddoniaeth ac wedi bod yn olygydd ac ysgrifennyd ers blynyddoedd, gan arbenigo mewn amaethyddiaeth ar gyfer cynulleidfaoedd technegol a’r cyhoedd. Rydw i hefyd yn ysgrifennu erthyglau i’r wasg a defnyddiau addysiadol.
DIgwyddiadau:
Rwyf wedi trefnu cynadleddau, cadeirio cyfarfodydd, cynllunio gweithdai, [aratoi prydau bwyd cymunedol, arwain enciliau a creu grwpiau newydd. Dwi wrth fy modd yn cynnal lle diogel a chreadigol lle mae llais pob un yn cael ei glywed ac mae nodiadau clir ar y diwedd.
Addysg:
Rwyf yn athrawes gymwys sy wedi gweithio fel swyddog addysg a thiwtor preifat. Gallaf arwain ymweliadau fferm, hyfforddi staff cefn gwlad mewn cynnal ymweliadau addysgol, llunio ac arwain gweithdai ystafell ddosbarth a chynhyrchu defnyddiau addysg.
Cylchoedd coetsio:
Dyma gynnig rhad ac am ddim i actifwyr bwyd.
Sut rydw i’n gweithio
Gan weithio gartref ger Aberystwyth, rwy’n hapus i ymgymryd â phrosiectau o unrhyw faint, o ychydig oriau i flwyddyn neu fwy. Rwy’n codi £ 25-50 yr awr, yn dibynnu ar y gwaith, a’r cwsmer, neu £ 180-300 / dydd. Cysylltwch â mi i gael ymgynghoriad hanner awr am ddim nawr, ar jane [at] foodociety.wales neu ffoniwch 07929 857173.
Tystebau
“As a consulting author for one of our publications, Jane was a pleasure to work with and offered incredible insight into issues surrounding the food system when we were unsure of where to start. Her balanced, realistic, and well-informed approach meant that we were clear on the key problem areas but were left feeling empowered and motivated to do something to help solve them. Professional throughout, Jane set the optimistic and inspiring tone for the book, and changed the way we viewed food consumption.”
Melanie Robinson, Canopy Press